FIDEOS
CERDDOROL
Gorffennol, Presennol a Dyfodol y Fideo Cerddorol Cymraeg
Cyfweliadau
Dewch i gwrdd â’r bobl sydd wedi rhannu eu hatgofion gyda ni – cynhyrchwyr, cyfarwyddwyr, cerddorion a llawer mwy – o ddyddiau cynnar y fideo cerddorol hyd heddiw.
Comisiynau
Gwyliwch rai o’r fideos cerddorol newydd, gwreiddiol a gomisiynwyd fel rhan o’n Cronfa Arloesi Fideos Cerddorol.
AR GAU
Daeth ail rownd ein Cronfa Arloesi Fideos Cerddorol i ben ar 28 Chwefror 25, 2025.
Prosiect Fideos Cerddorol
Mae’r prosiect nodedig hwn yn dod ag academyddion, archifwyr, cerddorion a ffigurau blaenllaw’r diwydiant ynghyd i sefydlu hanes y fideo cerddorol Cymraeg. Y cwestiwn ymchwil canolog yw: i ba raddau y mae gan fideos cerddorol yn y Gymraeg hunaniaeth ddiwylliannol, wleidyddol, ddiwydiannol ac esthetig sy'n wahanol i gynyrchiadau Eingl-Americanaidd?
Pa effaith mae fideos cerddorol wedi ei chael ar ddiwylliant Cymraeg? Pa effaith gafodd y fideos hyn ar y sin gerddoriaeth Gymraeg? I ba raddau roedd y fideos cerddorol yn adlewyrchu neu'n creu'r sin? I ba ddoniau y rhoddodd gyfleoedd?

