Cefndir
Darllenwch am y cyd-destun ymchwil, cefndir ac amcanion y prosiect
Gorffennol, Presennol a Dyfodol y Fideo Cerddorol Cymraeg
Mae’r prosiect nodedig hwn yn dod ag academyddion, archifwyr, cerddorion a ffigurau blaenllaw’r diwydiant ynghyd i sefydlu hanes y fideo cerddorol Cymraeg. Y cwestiwn ymchwil canolog yw: i ba raddau y mae gan fideos cerddorol yn y Gymraeg hunaniaeth ddiwylliannol, wleidyddol, ddiwydiannol ac esthetig sy'n wahanol i gynyrchiadau Eingl-Americanaidd?
Pa effaith mae fideos cerddorol wedi ei chael ar ddiwylliant Cymraeg? Pa effaith gafodd y fideos hyn ar y sin gerddoriaeth Gymraeg? I ba raddau roedd y fideos cerddorol yn adlewyrchu neu'n creu'r sin? I ba ddoniau y rhoddodd gyfleoedd?
Arwyddocâd
Yn 2022, wrth i S4C ddathlu 40 mlynedd o ddarlledu a gyda’i dyfodol fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus yn gyson dan sylw’r cyfryngau, mae’r prosiect hwn yn cyfeirio’n benodol at ei chyfraniad unigryw i fideos cerddorol yng Nghymru. Mae’r fideo cerddorol Cymraeg wedi bod yn bresenoldeb cyson, bron yn ddi-dor ar deledu, ac yn ddiweddarach, ar lwyfannau digidol ers lansio S4C yn 1982. Er gwaethaf ei bresenoldeb canolog ym myd darlledu Cymraeg, ac yn hanes gwleidyddol a diwylliannol Cymru, nid yw’r corff arwyddocaol hwn o waith yn hysbys nac yn cael ei gydnabod. Bydd y prosiect hwn yn ffurfio astudiaeth gynhwysfawr ddiffiniol o’r fideo cerddorol Cymraeg, gan olrhain ei darddiad o fyd darlledu llinol pedair sianel i’w ledaenu i’r parth digidol, gan ystyried sut mae cyfryngau digidol a chyfryngau cymdeithasol wedi dod i ailddyfeisio ffurfiau a swyddogaethau’r fideo gerddorol y tu hwnt i derfynau traddodiadol teledu.

