Ymgysylltu
Casgliad o fideos, ymddangosiadau cyfryngol, erthyglau a gweithgareddau prosiect eraill
DOSBARTH MESITR
Gwahoddwyd Greg i gymryd rhan yn labordy Academi Ffilm y BFI:‘Gwneud Fideos Cerddorol yn 2025’. Wedi’i anelu at ddarpar grewyr 16-25 oed, roedd y sesiwn hefyd yn cynnwys cyfraniadau gan gynhyrchwyr fideos cerddorol proffesiynol – 11 Tachwedd 2024.
PANEL
‘Cofio Fideo 9’, Eisteddfod Genedlaethol 2022
Gwahoddwyd cyn-aelodau cwmni cynhyrchu Criw Byw i hel atgofion a myfyrio ar eu rhaglen deledu eiconig Fideo 9 a gynhyrchodd gannoedd o fideos cerddorol ar gyfer artistiaid newydd a blaenllaw rhwng 1988-1992. Yn ymuno â ni roedd y cynhyrchwyr Dafydd Rhys a Gethin Scourfield, y cyflwynydd Eddie Ladd, a’r ymchwilydd Ifor ap Glyn.
CYNHADLEDD
Cyflwynodd Greg rai syniadau cychwynnol am y prosiect o fewn cyd-destun academaidd yn y gynhadledd ‘Rethinking Histories of Popular British Film and Television’ ym Mhrifysgol Northumbria – 27 Mehefin 2023.
ERTHYGL
Mynd ar Drywydd y Fideo Cerddorol Cymraeg
Cyhoeddodd Kate erthygl ar y prosiect yng nghylchgrawn cerddoriaeth Y Selar (rhifyn 61) - Medi 2021
(tud. 14)

RADIO
Ymunodd Greg a Kate â’r cyflwynydd a chyn faswr yr Anrhefn Rhys Mwyn ar ei sioe BBC Radio Cymru – 2 Awst 2021.
Gwrandewch YMA! (cymraeg)
RADIO
Ymddangosodd Kate fel gwestai ar raglen Al Hughes ar BBC Radio Cymru i siarad am y prosiect – 27 Gorffennaf 2021 (ddim ar gael i wrando ar-lein bellach)

FIDEO
‘Mae’r Lluniau Fel Hud’: Ymchwilio’r Fideo Cerddorol Cymraeg
Fideo a gynhyrchwyd ar gyfer AmGen yr Eisteddfod Genedlaethol yn ystod haf 2021, yn cynnwys cyfweliadau gyda’r cynhyrchydd Dafydd Rhys, y cyflwynydd Eddie Ladd, yr hyrwyddwr ac uwcholygydd Owain Schiavone a’r artist Ani Glass.



