“Roedden ni’n trio bod yn gornel gwrth-sefydliadol…mi oedd ‘na bobl o fewn y diwydiant oedd moyn gweld ni’n methu.”
Dafydd Rhys
Cynhyrchydd | Producer
Fel un o sylfaenwyr y cwmni cynhyrchu, Criw Byw, bu Dafydd yn goruchwylio’r gwaith o wneud cannoedd o fideos cerddorol ar gyfer rhaglenni teledu ar S4C yn yr 1980au a’r 1990au, gan gynnwys yr eiconig Fideo 9.