Emyr Glyn Williams
“Fyswn i hefyd yn gweld bod fideos pop yn rhywbeth oedd efo fwy o werth diwylliannol yn y diwylliant Cymraeg na fysa fo i ddiwylliant Saesneg.”
Emyr Glyn Williams
Cynhyrchydd | Producer
Ymunodd Emyr â thîm Fideo 9 fel ymchwilydd o gyfres dau ymlaen ac fe'i hystyrir yn hollbwysig i gynhyrchu fideos cerddorol ar gyfer y rhaglen. Yn ddiweddarach, cyd-sefydlodd y label chwedlonol, Ankst, a pharhaodd i gynhyrchu fideos cerddorol ar gyfer eu hartistiaid.
Yn ystod sgwrs helaeth, rhannodd Emyr ei atgofion a’i feddyliau am bopeth o ddyddiau cynnar S4C i’r diwydiant fideo cerddorol cyfoes.

